2014 Rhif 379 (Cy. 44)

ardrethu a phrisio, cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (“Rheoliadau 1989”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer casglu a gorfodi ardrethi annomestig. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1989.

Mae rheoliad 2(2) yn galluogi awdurdod bilio (oni bai y gofynnir am gopi caled) i ddarparu'r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu gyda hysbysiad galw am dalu ardrethi annomestig, drwy gyhoeddi'r wybodaeth honno ar wefan.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2014 Rhif 379 (Cy. 44)

ardrethu a phrisio, cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed                             20 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       24 Chwefror 2014

Yn dod i rym                        17 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan  adrannau 62 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]), a pharagraffau 1 a 2(2)(gf) ac (h) o Atodlen 9 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).

 Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2014.

(2)  Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Mawrth 2014.

(3)  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

 

Diwygio Rheoliadau

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989([3]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn rheoliad 2 (cyflwyno hysbysiadau)—

(a)     ym mharagraff (3)—

                           (i)    hepgorer y geiriau “, or any information required by the demand notice regulations to be supplied to any person when a demand notice (within the meaning of Part II of these Regulations) is served”;

                         (ii)    yn is-baragraff (a)—

(aa)        yn lle “given, served or supplied”, rhodder “given or served”; a

(bb)       hepgorer “or information”;

                       (iii)    yn is-baragraff (b)—

(aa)        yn lle “given, served or supplied”, rhodder “given or served”;

(bb)       ym mharagraff (i) hepgorer “or information”;

(b)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Without prejudice to section 233 of the Local Government Act 1972([4]) and subject to paragraphs (5) and (6) below, any information required by the demand notice regulations to be supplied to any person when a demand notice (within the meaning of Part II of these Regulations) is served—

(a)   may be so supplied by sending the information to that person by electronic communication to such address as may be notified by that person for that purpose; or

(b)  subject to paragraph (3B) is treated as supplied to that person where the billing authority has published the information on a website and has notified that person by way of the demand notice of—

(i) the publication of the information on a website;

                      (ii)  the address of that website; and

                     (iii)  the place on the website where the information may be accessed.

(3B)  Where a person requests a hard copy of the information, the authority must supply the information in hard copy as soon as practicable following the request.”; ac

(c)   ym mharagraff (5) yn lle “for the purpose of paragraph (3)(a)” rhodder “for the purposes of paragraphs (3)(a) or (3A)(a)”; a

(d)  ym mharagraff (6) yn lle “for the purpose of paragraph (3)(a)” rhodder “for the purposes of paragraphs (3)(a) or (3A)(a)”.

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

 

20 Chwefror 2014



([1])           1988 p.41. Gweler adran 146(6) i gael y diffiniad o “prescribed”. Mae diwygiadau perthnasol wedi cael eu gwneud i baragraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan baragraff 89 o Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p.15), ond nid yw'r ddarpariaeth honno mewn grym. Mewnosodwyd paragraff 2(2)(gf) o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno gan adran 8(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17). Diwygiwyd paragraff 2(2)(h) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 8(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012.

([2])           Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S. 1989/1058. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud gan O.S. 2009/2706.

([4])           1972 p.70. Diddymwyd adran 233(6) gan Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57). Nid yw'r diwygiadau eraill i'r adran honno yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.